Mae gan Brifysgol Abertawe yn dilyn cynllun wedi ei baratoi yn dda ar gyfer pandemig ffliw. Yn unol ?'r cynllun hwnnw mae posteri am ragofal glendid yn cael eu dosbarthu a'u harddangos ar hyd y campws.
Bydd y Tîm Iechyd Argyfwng (EMT) yn parhau i gyfathrebu gyda staff a myfyrwyr yn gyson gan ddiweddaru gwefan y brifysgol o ran gwybodaeth yn ôl y galw.
Mae'r DU wedi bod yn paratoi am bandemig o ffliw ar hyd y pum mlynedd diwethaf, gan weithio gydag asiantaethau yn lleol, fesul ardal ac yn genedlaethol. Mae'r Llywodraeth wedi sefydlu cyflenwad o gyffuriau gwrthfeirysol i drin mwy na 33 miliwn o bobl.
Mae gan holl sefydliadau'r GIG gynlluniau pandemig o ffliw ac mae'r Adran Iechyd bellach yn cydweithio'n agos gyda'r GIG i sicrhau bod y cynlluniau hyn ar gael i'w gweithredu fel bod y cyffuriau gwerthfeirysol ar gael i'r cyhoedd ar fyrder pe byddai angen.
Mae symptomau ffliw moch yn debyg i symptomau'r ffliw ddynol dymhorol gan gynnwys:
Mae rhai pobl a gafodd ffliw moch wedi dioddef chwydu a dolur rhydd.
Gall ymarfer da i reoli haint ynghyd ag ymarfer hylendid da wrth resbiradu a golchi dwylo fod o gymorth i leihau pob haint pob feirws, gan gynnwys y ffliw moch ddynol. Cynnwys hyn:
Cododd Sefydliad Iechyd y Byd ei rybudd i lefel pump - un yn brin o bandemig llawn - ac mae'n dal i fonitro'r sefyllfa. Y cyngor diweddaraf o'r Asiantaeth Amddiffyn Iechyd (HPA) yw bod yn wyliadwrus a rhoi sylw i hylendid.
Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o fynd i'r dudalen we hon: http://wales.gov.uk/topics/health/protection/communicabledisease/swine/?lang=en
Ceir gwybodaeth bellach, gan gynnwys cyngor iechyd ar sut i osgoi haint - trwy olchi dwylo yn aml er enghraifft - ar: <http://www.hpa.org.uk> a http://www.hpa.org.uk <http://www.nphs.wales.nhs.uk>
I lawrlwytho'r ymgyrch hysbysebu ar y teledu Ei Ddal, Ei Daflu, Ei Ddifa, ewch i wefan yr Adran Iechyd ar : <http://www.dh.gov.uk/en/News/Media/DH_098663>
I lawrlwytho PDF o'r daflen wybodaeth ar ffliw moch cliciwch yma: Swine flu information
Cewch gyngor ar sut y gall ffliw moch effeithio eich cynlluniau teithio i wlad arbennig o adran Cyngor wrth Deithio ar wefan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad:
http://www.fco.gov.uk/ên/travelling-and-living-overseas/. Gwnewch yn si?r eich bod yn edrych ar y wefan am y cyngor diweddaraf cyn teithio.
Dychwelyd o dramor i'r DU
Dylai unrhyw un a ddychwelodd yn ddiweddar o ardal a gafodd ei effeithio, neu a fu mewn cysylltiad ? rhywun felly, fonitro ei iechyd yn fanwl am saith diwrnod. Does dim angen i chi ynysu eich hun tra eich bod yn parhau yn iach. Pe byddech, serch hynny yn ystod y cyfnod hwn, yn dioddef o dostrwydd tebyg i ffliw, dylech aros adre a chael cyngor meddygol gan weithiwr iechyd proffesiynol yn eich ardal, neu trwy gysylltu ? Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.
Pe yn teimlo'n sâl gyda thwymyn ac o leiaf un o'r symptomau ffliw a restrwyd uchod, yn, os gwelwch yn dda:
Ar gyfer absenoldeb oherwydd pob salwch arall (heblaw ffliw) dylai staff a myfyrwyr ddilyn y dull arferol ar gyfer absenoldeb oherwydd salwch. Er enghraifft dylai aelodau staff gwblhau ffurflen absenoldeb salwch a'i gyrru ymlaen i'r Adran Adnoddau Dynol (HR) yn y ffordd arferol.
Os nad ydych wedi cofrestru gyda meddyg lleol rhowch alwad i Galw Iechyd Cymru (NHS Direct Wales) ar 0845 46 47 er mwyn derbyn cyngor.
Os ydych yn teimlo'n sâl yn ystod arholiadau arhoswch yn eich ystafell a chysylltwch ? Chyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr ar 01792 29 5356, neu trwy e-bost i: s.w.wright@swansea.ac.uk. Mae gan y Brifysgol ddull gweithredu sefydledig ar gyfer ystyried achosion lle nad yw myfyrwyr yn gallu sefyll arholiad oherwydd salwch.
Galw Iechyd Cymru NHS Direct Wales – 0845 4647 www.nhsdirect.wales.nhs.uk/
Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol i Gymru http://www.wales.nhs.uk/sites3/news.cfm?orgid=719&contentid=11944
Llywodraeth Cynulliad Cymru http://wales.gov.uk/topics/health/protection/communicabledisease/swine/?lang=en
Yr Adran Iechyd http://www.dh.gov.uk/en/Publichealth/Flu/PandemicFlu/index.htm
Asiantaeth Diogelu Iechyd http://www.hpa.org.uk/webw/HPAweb&Page&HPAwebAutoListName/Page/1240732817665?p=1240732817665
Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad www.fco.gov.uk
Gwybodaeth Bwysig am Ffliw moch (poster a thaflen) http://www.direct.gov.uk/en/Swineflu/DG_177831
Asiantaeth Ffiniau'r DU 'Cyngor i bobl yn dod i'r DU gyda symptomau tebyg i ffliw'. http://www.bia.homeoffice.gov.uk/sitecontent/newsarticles/swine-flu-advice
Gwybodaeth am Ffliw Moch - Llinell Gymorth Genedlaethol 0800 151 3513
Symptomau ffliw ac annwyd cyffredin
Beth alla i wneud i amddiffyn fy hun rhag dal y ffliw