Swansea University - Hygyrchedd

Hygyrchedd

Mae'r datganiad canlynol ar hygyrchedd yn amlinellu ein awydd i wella'r wefan ar gyfer ei holl defnyddwyr

Mae Abertawe yn gweithio tuag at wella safonau hygyrchedd a defnydd ei gwefannau.  Trwy wneud hyn, mae'n gweithredu yn unol â Rhan 4 y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (a newidiwyd gan Orchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001) a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005.

Mae'r Brifysgol yn ymdrechu i gydymffurfio â phwyntiau hygyrchedd Priority 1 a 2 dros y wefan gyfan.  Cafodd hon ei sefydlu gan Fenter Hygyrchedd i'r We  Consortiwm y We Fyd-Eang.  Sefydlir arferion da drwy ddilyn Canllawiau Hygyrchedd i Ddeunydd dros y We 1.0(http://www.w3.org/TR/WAI-WEBCONTENT/)

Mae'n bosib na fydd rhai o'n tudalennau yn cydymffurfio â'r safonau hyn ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, rydym yn cydweithio ag adrannau bydd yn darparu cynnwys drwy'r Brifysgol gyfan i sicrhau y bydd gwe-ddalennau'r dyfodol i gyd yn cydymffurfio â chanllawiau W3C dros hygyrchedd.

Cysylltwch â weboffice@swansea.ac.uk os hoffech fwy o wybodaeth neu os ydych yn cael anawsterau wrth fynd ar wefan Prifysgol Abertawe.

Allweddellau Cyrchu

Er mwyn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd i Gynnwys ar y We, mae'r Brifysgol yn sicrhau bod modd pori drwy ddeunydd cyhoeddedig gan ddefnyddio'r allweddellau. Caiff yr allweddellau cyrchu eu cynrychioli fel a ganlyn:

S - Osgoi Gwelywio

1 - Hafan

2 - Canolfan Newyddion

3 - Map o'r Safle

a - Astudio yn Abertawe

b - Ysgolion & Ymchwil

c - Busnes & Gyrfaoedd

d - Cyn-fyfyrwyr & Ymwelwyr

e - Y Brifysgol & Staff


Defnyddir yr allweddellau cyrchu fel llwybr byr ar gyfer prif ddolenni'r wefan.  Bydd swyddogaeth y byselli yn amrywio yn ôl platfform a phorwr. Yn gyffredinol byddwch yn gwasgu bysell "Alt" tra'n gwasgu'r fysell gyrchu berthnasol ar system Microsoft Windows ac ar systemau Apple byddwch yn gwasgu bysell "Cmd" tra'n gwasgu'r fysell berthnasol.

Wrth ddefnyddio Microsoft Internet Explorer, os gwasgwch yr allweddellau fel y nodir uchod, byddwch yn mynd ar lwybr byr; rhaid i chi wedyn wasgu'r fysell "Enter" i fynd i'r dudalen gyfatebol.  Tra'n defnyddio porwyr Netscape neu Mozilla, ewch yn syth at y dudalen y mynnwch wrth wasgu'r allweddellau fel y nodir uchod.  Rhaid i ddefnyddwyr Opera wasgu'r fysell "Shift", yna "Escape" ac yna'r fysell gyrchu berthnasol.