Swansea University - Gwasanaethau Preswyl

Gwasanaethau Preswyl

Yn dod i'r Brifysgol am gyfarfod busnes, cynhadledd neu dim ond i edrych o gwmpas? Gall y Swyddfa Llety eich helpu.

Gan gynnig llety hunanarlwyo ar ein safle yn Hendrefoelan, a gwely a brecwast yng ngampws Singleton, gall Prifysgol Abertawe ddarparu ystafelloedd cyfforddus i chi pan fyddwch yn aros yma yn ystod gwyliau'r Pasg a thros fisoedd yr haf.

Callaghan Building001 

Yn ein prif safleoedd yn Neuaddau Campws Singleton a Hendrefoelan, gall ymwelwyr fanteisio ar ystod eang o wasanaethau gan gynnwys golchdy, maes parcio a siopau. Gall ymwelwyr academaidd archebu ystafelloedd cyn cyrraedd Abertawe ac mae'n bosibl i fyfyrwyr ar leoliadau gwaith osod ystafelloedd yn ystod y tymor, yn amodol ar rai cyfyngiadau.

Singleton Abbey001

Gall y Swddfa Llety hefyd eich helpu i ddod o hyd i westai gwely a brecwast lleol neu westai eraill sy'n diwallu eich anghenion yn Abertawe a'r cyffiniau.

Gweler ein hadran ar Ymwelwyr am wybodaeth fanylach.

Gellir cysylltu â'r Swyddfa Llety yn:

Swyddfa Llety
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
Y Deyrnas Unedig

Ffôn: +44 (0) 1792 295 101
Ffôn: +44 (0) 1792 295 328
Ffacs: +44 (0)1792 295 327
(O Ystafelloedd Myfyrwyr: 85101))

E-bost: llety@abertawe.ac.uk