Mae'r canllaw byr hwn i rwydwaith Technium, a'r gwasanaethau y gall Prifysgol Abertawe eu darparu i'w gefnogi, yn gyflwyniad i un o fentrau mwyaf blaengar Cymru, lle cydnabyddir arloesi fel conglfaen llwyddiant masnachol.
Mae Technium yn rhwydwaith sbarduno a arweinir gan dechnoleg, a sefydlwyd yn Abertawe ar dro'r mileniwm ac a reolir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r rhwydwaith yn gwireddu syniadau drwy ddarparu amgylchedd cefnogol lle gall cwmnïau dyfu'n gyflym tra'n manteisio ar arbenigedd technegol ac academaidd.
Mae Prifysgol Abertawe yn chwarae rhan allweddol yn y cysyniad arloesol hwn, a arweinir gan y Sefydliad Arloesoedd. Yn wir, lleolir un o ganolfannau'r Technium - Technium Digidol - yng nghanol campws y Brifysgol.

Mae'r brifysgol yn rhoi cymorth academaidd ac ymchwil arbenigol i gwmnïau Technium, yn benodol y rhai a leolir yn rhanbarth de orllewin Cymru. Ymhlith y Canolfannau Techniun yn y de orllewin mae:
Technium Digidol
Technium Digidol @ Sony
Technium Sir Benfro
Technium Peirianneg Perfformiad
Techniun Technolegau Cynaliadwy
Technium Abertawe (I a II)
Mae tair canolfan arall: Technium CAST, Technium OpTIC a Technium Aberystwyth.
I gael mwy o wybodaeth am bob un o'r canolfannau hyn, gan gynnwys mapiau lleoliad a manylion cyswllt llawn, ewch i brif wefan Technium www.technium.co.uk.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am Brifysgol Abertawe a Technium, cysylltwch â Siân Newman yn y Sefydliad Arloesedd ar +44 (0)1792 602362 neu e-bost s.y.newman@abertawe.ac.uk