Swansea University - Gwasanaethau Proffesiynol

Gwasanaethau Proffesiynol

Trwy ddarparu rhychwant eang o wasanaethau mewn ffordd gyfeillgar ac effeithlon, gall y Brifysgol eich cynorthwyo i chwilio gwybodaeth, datrysiadau a chyngor ar nifer helaeth o faterion

Nod swyddogion ymroddedig y gwasanaeth proffesiynol yw deall eich amcanion a'ch anghenion a'r heriau sy'n eich gwynebu.  Os ydych yn edrych am wybodaeth yn ymwneud â gweithdrefnau academaidd, cyhoeddi llyfrynnau, ffyrdd i ddatrys problemau technolegol mae yma adran sy'n barod i'ch cynorthwyo a'ch tywys drwy holl brosesau'r Brifysgol.

Ble nesa'?

Fel ymhob sefydliad cymhleth, dewch i'r pwynt ble mae'n rhaid gofyn "At bwy ydw i'n troi nesaf?".  Ein nod yw rhoi cymorth i chi pan gyrhaeddwch y pwynt yma.  Os ydych yn sicr o'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, defnyddiwch y dolenni ar ochr chwith y we-ddalen hon er mwyn gweld pa wasanaeth sy'n fwyaf addas ar gyfer eich ymholiad.

Astudio yn @bertawe - Polisi derbyn myfyrwyr, ymholiadau cyffredinol, cofrestru, sut i wneud cais

Materion Ariannol - Yr hyn sy'n rhaid ei brynu, gwybodaeth am ffioedd dysgu, tâl a phensiynau, archwiliadau ariannol, yswiriant, TAW, polisi ariannol

Cwestiynau Academaidd - Rheoliadau a pholisiau, safonnau ac ansawdd, gweithdrefnau, cofnodion a phwyllgorau, arholiadau, graddio

Technoleg ar y Campws - Desg gymorth, basau data, datblygu prosiectau, ystadegau, systemau a chymorth

Y Campws - Adeiladau, y Swyddfa Ddiogelwch, cyfleusterau, parcio, datblygiadau sylweddol

Marchnata - Recriwtio, cyhoeddiadau, digwyddiadau, y wasg, y we, gwasanaethau i gyn-fyfyrwyr, hysbysebu, dylunio graffeg

Gweithio yn @bertawe - swyddi gweigion, recriwtio, tâl a phensiynau, gweithdrefnau yn y gweithle, dyrchafiad a chyfnodau prawf